Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 16 Medi 2015
Amser: Times Not
Specified
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3220
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Christine Chapman AC (Cadeirydd) Peter Black AC Alun Davies AC Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC Mark Isherwood AC Gwyn R Price AC John Griffiths AC Rhodri Glyn Thomas AC |
Tystion: |
Ken Skates AC, Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Natasha Hale, Llywodraeth Cymru Jon Westlake, Head of Sport, Outdoor Recreation and Landscapes Kate Clark, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 231KB) Gweld fel HTML (269KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gwenda Thomas AC a Jocelyn Davies. Dirprwyodd John Griffiths AC ar ran Gwenda Thomas AC, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.
2.1 Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
· Mae’n Llywydd Côr Merched Treforys, noddwr Côr Clwb Rygbi Treforys, cefnogwr Côr Orpheus Treforys, Llywydd Clwb Pêl-droed Ynystawe, Is-lywydd Clwb Pêl-droed Tref Treforys, aelod o Glwb Rygbi Treforys, ac yn gefnogwr Clybiau Rygbi Y Glais, Birchgrove a Bonymaen.
2.2 Datganodd Peter Black y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
· Mae’n Aelod o Ddinas a Sir Abertawe.
2.3 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
· Kate Clark, Cyfarwyddwr, CADW
· Natasha Hale, Dirprwy Gyfarwyddwr y Sector a Busnes, Llywodraeth Cymru
· Jon Westlake - Pennaeth yr Is-adran Chwaraeon
2.4 Yn ystod y cyfarfod, cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu i’r Pwyllgor gopi o’r Memorandwm o Ddealltwriaeth a gytunwyd yn ddiweddar rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU mewn perthynas ag adolygiad Siarter y BBC. Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:
· Gwaith Llywodraeth Cymru ar arfer gorau ledled Ewrop ynghylch dulliau amgen o ddenu cyllid ar gyfer y celfyddydau; yn gysylltiedig â hyn, dywedodd y Dirprwy Weinidog y byddai’n gofyn i Gyngor Celfyddydau Cymru ddarparu papur briffio ar gyfer Aelodau sy’n ymateb yn rhannol i’r gwaith hwn;
· manylion yr adroddiad disgwyliedig gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn sgil ei asesiad cyfredol o effaith cyllid ar gyfer Celfyddydau a Busnes Cymru, a’i berfformiad;
· manylion am gapeli ac eglwysi rhestredig gwag/heb eu meddiannu, yn ôl gradd, a a mynwentydd/safleoedd claddu;
· rhagor o wybodaeth am enghraifft Barcelona a nodwyd mewn perthynas â threfniadau ar gyfer delio ag adeiladau rhestredig gwag, gan gynnwys argaeledd pwerau i roi dirwyon;
· rolau a chyfrifoldebau’r Grŵp Amgylchedd Hanesyddol, Bwrdd Ymgynghorol Amgylchedd Hanesyddol Cymru, a Grŵp Treftadaeth Cymru.
3.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.
6.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref a chytunodd i ymgymryd â’r gwaith canlynol:
· ymchwiliad i Adolygiad Siarter y BBC;
· archwiliad o Fil Drafft Cymru Llywodraeth y DU mewn perthynas â chylch gwaith y Pwyllgor, cyn gynted â phosibl ar ôl i’r Bil drafft gael ei gyhoeddi;
· craffu ar gyfrifoldebau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a’i adroddiad blynyddol;
· craffu ar ddiwygiad arfaethedig Llywodraeth Cymru o’r Strategaeth Cynhwysiant Ariannol.
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.